Stori Jessica

   ENGLISH > 

Ym mis Mawrth 2017, nes i gamesgor am y bedwaredd tro. Bydd unrhyw un sydd wedi bod trwy’r hunllef yma yn gwybod profiad mor dinistriol ac unig ydyw, i fynd drwy hyn dro ar ol tro.

Bob tro mae’n digwydd, mae’r gofid bod rhywbeth o’i le, neu bod rheswm dyfnach dros gamesgor yn tyfu. Fy mhryder mwyaf yw bod fy meichiogrwydd yn iawn a bod modd atal y camesgoriad. Oherwydd hyn, roeddwn yn ei gweld yn anodd credu bod y GIG ond yncynnig profion i ddarganfod achos y camesgoriadau os oeddwn yn mynd drwy’r profiad erchyll am y drydedd tro.

 

Wrth lwc, roeddwn yn hynod ffodus i gael trydydd beichiogrwydd llwyddiannus, ac erbyn hyn mae gen i fachgen hyfryd dwy flwydd oed.

Pan oedd fy mab yn 18mis oed, penderfynodd fy mhartner a minnau ei bod hi’n bryd cael brawd neu chwaer. Roeddwn yn meddwl y byddai popeth yn iawn y tro hwn, dim ond i wynebu’r teimlad afiach eto pan sylwais rhywfaint o waed pan oeddwn pum wythnos a hanner mewn i’r beichiogrwydd. Hwn oedd fy nhrydedd camesgoriad, a bu’r bedwaredd ychydig fisoedd yn ddiweddarach.  

Yr un peth positif a feddyliais oedd nawr, yn sicr, y bydd rhywun yn gofalu amdanaf. Ni fyddaf ar fy mhen fy hun, ni fyddaf yn clywed geiriau “O, anlwc yw e” a gallaf ddechrau cael rhai atebion i pham mae hyn yn digwydd i mi dro ar ol tro.

Wrth ymchwilio i’m opsiynau des i ar draws elusen Tommy’s a’r gwaith anhygoel y maent wedi ei wneud i sefydlu Canolfannau Ymchwil Camesgor Arbenigol. Ar ol gwirio fy mod yn cyrraedd y meini prawf ar gyfer cael fy nghyfeirio atynt, siaradais a’r meddyg.

Pryd hynny, deallais am y tro cyntaf cyn lleied o ofal a chefnogaeth sydd yma yng Nghymru. Ar ben hyn, mae’r GIG yng Nghymru yn atal menywod yng Nghymru rhag gael y gofal arbenigol sydd ar gael yn Lloegr.

Nid oes fawr o obaith i fenywod yng Nghymru sydd wedi dioddef sawl camesgoriad i ddeall pam bod hyn yn digwydd iddynt. Mae’r diffyg gofal a chefnogaeth ar adeg mor anodd ac mor unig, yn eu gadael yn teimlo’n isel ac yn anobeithiol.

Y polisi yng Nghymru yw i fenywod dderbyn gofal yng Nghymru; mae’n rhaid iddynt fod wedi trio pob opsiwn yma (a dim un o’r rhain yn cynnig gofal arbenigol) a chael cefnogaeth ysgrifenedig gan eu meddyg cyn iddynt allu cael eu cyfeirio at wasanaeth arbenigol ar draws y ffin.

Mae’r profiad yma yn un anodd a phoenus i rieni, ac mae’n gallu cymryd amser maith. Hyd yn oed pe bai’r broses yn haws, bydda’r pellter yn atal rhai rhag ei dderbyn.

Yn fy achos i, cymerodd bum mis i weld ymgynghorydd lleol, lle cefais dau brawf gwaed. Ni chefais erioed y canlyniadau er gwaethaf holi ar sawl achlysur.

Roeddwn i’n meddwl, o leiaf y byddem yn cael cynnig sgan ychwanegol yn ystod fy meichiogrwydd diwethaf,  – ceisiodd fy meddyg, ond gwrthododd yr ysbyty.

Yn fyr, mae menywod ar hyd a lled Cymru’n dal i ddioddef yr hunllef o gamesgoriadau lluosog, tra’n cael ychydig iawn o obaith o ddeall pam mae hyn yn digwydd iddynt. Mae’r diffyg gofal a chymorth hwn yn ystod un o’r amseroedd mwyaf anodd yn eu bywydau yn gadael miloedd o gyplau yn teimlo’n unig ac yn anobeithiol.

Mae’r gofal y mae menywod yn ei dderbyn mewn Unedau Beichiogrwydd Cynnar wrth fynd trwy cymesgoriad yn bell o fod yn ddelfrydol. Dangosir yr angen am well gofal mewn ymchwil diweddar sy’n dangos bod bron i 40% o fenywod yn dioddef symptomau ‘PTSD’ dri mis ar ol iddynt gamesgor.

Mae’r diffyg gofal i gyplau yng Nghymru yn gwbl annerbyniol ac yn gwbl annheg. Penderfynais ddechrau deiseb yn galw ar Gynulliad Cymru i ddarparu gwasanaethau arbenigol i ferched yma.

Rydw i a’r FTWW yn gobeithio y gallwn gynnig gofal llawer gwell i ferched yng Nghymru trwy ddangos yr Ysgrifennydd Iechyd bod angen gynnig y gwasanaethau hyn arnom. Byddai’n helpu pe bai byddai pobl sydd wedi cael problemau wrth gael mynediad at ofal arbenigol yng Nghymru yn gallu rhannu eu storiau ar y ddeiseb. Bydd y wybodaeth hwn yn amhrisiadwy wrth ddangos i Llywodraeth y Cynlluniad nad yw’r drefn bresennol yn addas a’i fod yn cael effaith niweidiol ar les miloedd o fenywod yng Nghymru.